At Gadeirydd pob un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol
17 Ionawr 2017
Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a sefydliadau datganoledig
Rydym wedi dechrau ymchwiliad i gysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae copi o’r llythyr ymgynghori ynghlwm.
Oherwydd bod gwaith rhynglywodraethol effeithiol yn berthnasol i bob pwyllgor, hoffem glywed unrhyw farn sydd gan eich pwyllgor ar unrhyw faes yn ein cylch gorchwyl.
Rydym hefyd yn ymwybodol bod nifer o bwyllgorau wedi sefydlu perthynas waith â phwyllgorau ledled y Deyrnas Unedig sy’n rhannu’r un diddordebau â nhw, a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau pellach sydd gennych o ran sut y gallwn wella gwaith rhyngseneddol.
Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â holl bwyllgorau’r Cynulliad pan fyddwn wedi gorffen ein gwaith.
Yn gywir
Huw Irranca-Davies AC
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.